SL(6)689 – Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau a Godir) (Cymru) 2025
Cefndir a diben
Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer rhyddhad trosiannol i gynorthwyo talwyr ardrethi yr effeithir arnynt gan ailbrisiad ardrethu annomestig 2026.
Mae'r Rheoliadau yn rhagnodi rheolau sydd i'w defnyddio i gyfrifo'r swm a godir ar gyfer hereditamentau cymwys sydd â chynnydd yn eu rhwymedigaeth ardrethi annomestig o fwy na £300, o ganlyniad i'r ailbrisiad. Mae'r Rheoliadau yn gweithredu drwy leihau rhwymedigaeth trethdalwyr cymwys, gan ganiatáu i'w cynnydd gael ei gyflwyno'n raddol dros gyfnod o ddwy flynedd yn dilyn yr ailbrisiad.
Y weithdrefn
Cadarnhaol drafft.
Mae Gweinidogion Cymru wedi gosod drafft o’r Rheoliadau gerbron y Senedd. Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud y Rheoliadau oni bai bod y Senedd yn cymeradwyo’r Rheoliadau drafft.
Materion technegol: craffu
Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
Rhinweddau: craffu
Nodwyd y ddau bwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn:
1. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd
Mae'r Pwyllgor yn nodi'r cynnydd o ran rhwymedigaeth ardrethi annomestig a gyflwynir yn raddol o 1 Ebrill 2023 ymlaen, a chost hyn i Lywodraeth Cymru fel y'i nodir yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol:
Byddai'r opsiwn hwn yn cefnogi amcangyfrif o 25,000 o eiddo, ar gost o £77m i Lywodraeth Cymru yn 2026-27 a £39m yn 2027-28. Byddai rhyddhad yn cael ei gymhwyso'n awtomatig i filiau trethdalwyr cymwys.
2. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd
Mae'r Pwyllgor yn nodi nad yw'r Rheoliadau wedi bod yn destun unrhyw ymgynghoriad. Yn ôl y Memorandwm Esboniadol:
Ni chafodd sefyllfa ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026-27 ei chadarnhau cyn Datganiad yr Hydref Llywodraeth y DU ar 26 Tachwedd 2025. I gael effaith o 1 Ebrill 2026 ymlaen, rhaid i'r Rheoliadau fod mewn grym cyn 1 Ionawr 2026. O ganlyniad i'r cyfyngiadau amseru hyn, nid yw'r Rheoliadau wedi bod yn destun ymgynghoriad. Mae'r Rheoliadau o fudd i drethdalwyr ac maent yn seiliedig ar y rhai a ddatblygwyd i ddarparu rhyddhad trosiannol yn dilyn ailbrisiad 2023. Felly, mae Llywodraeth Cymru yn hyderus y byddant yn cyflawni'r bwriad polisi.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
9 Rhagfyr 2025